Datganoli Darlledu – ble mae Llywodraeth Cymru?

Datganoli Darlledu – ble mae Llywodraeth Cymru?

Cymdeithas yr Iaith

55 лет назад

34 Просмотров

3pm, dydd Mercher, 8fed Awst
Pabell y Cymdeithasau 2, Y Senedd, Bae Caerdydd
Gweinidog Darlledu Llywodraeth Cymru, Dafydd Elis-Thomas AC ac Angharad Mair
http://cymdeithas.cymru/steddfod
Dyw cyfran o sylweddol pobl Cymru ddim yn ymwybodol bod materion fel iechyd ac addysg yn gyfrifoldeb ein Senedd yng Nghymru yn hytrach na San Steffan. Sut mae modd cynnal democratiaeth hyfyw yng Nghymru os nad yw rhan fawr o’r boblogaeth yn ymwybodol o bwy sy’n gwneud y penderfyniadau? Dyhead pobl Cymru yw datganoli pwerau darlledu i Gymru, gyda 65% ohonon ni yn ei gefnogi.

Mae diffyg presenoldeb y Gymraeg ar radio masnachol a theledu lleol, ac mae diffyg cynnwys Cymreig - prin fod Cymraeg o gwbl ar Made in North Wales ac mae dirywiad difrifol yn nifer oriau darlledu Cymraeg ar orsafoedd radio fel Radio Ceredigion a Radio Carmarthenshire. Ac mae penderfyniadau diweddar Llywodraeth Prydain yn golygu, wedi 2022, ni fydd S4C yn bodoli fel darlledwr annibynnol gan fydd dim fformiwla ariannol a bydd y sianel yn gwbl ddibynnol ar setliad y ffi drwydded bob deng mlynedd.

Ond eto, mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod cefnogi datganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru. Dewch i holi pam.

Тэги:

#cymraeg #cymru #iaith #ymgyrchu #hawliau #Llywodraeth_Cymru #Dafydd_Elis-Thomas #angharad_mair #datganoli #darlledu #steddfod #eisteddfod #caerdydd #senedd
Ссылки и html тэги не поддерживаются


Комментарии: